Nodiadau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Nyrsio a Bydwreigiaeth

10 Rhagfyr 2014

 

Yn bresennol: Julie Morgan AC, Kirsty Williams AC, Darren Millar AC, Elin Jones AC, Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a Liam Anstey, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Cofnodion)

           

Ymddiheuriadau: Dim

 

                                                                                                                                                                               

 

1.            Cafwyd croeso gan Julie Morgan AC, y Cadeirydd Dros Dro

 

Croesawodd Julie Morgan AC bawb i’r cyfarfod. Eglurodd fod Rebecca Evans AC, cadeirydd blaenorol y Grŵp Trawsbleidiol wedi rhoi’r gorau i’r gadeiryddiaeth pan gafodd ei phenodi yn Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn Llywodraeth Cymru.

 

2.            Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

 

Etholwyd Julie Morgan AC yn gadeirydd ac etholwyd Tina Donnelly yn ysgrifennydd ar ran Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

 

3.            Cofnodion y cyfarfod diwethaf - 4 Mawrth 2014

 

Nododd y cadeirydd fod y cyfarfod blaenorol wedi trafod cynllunio gweithlu, a chytunwyd ar gofnodion y cyfarfod hwnnw.

 

4.            Trafod y Blaengynllun Gwaith

 

Cytunodd y Grŵp Trawsbleidiol y dylid cynnal cyfarfodydd y grŵp gyda’r hwyr yn y dyfodol i sicrhau presenoldeb Aelodau. Cytunodd y Grŵp y dylid parhau i wahodd siaradwyr arbenigol i roi eu barn ar y materion dan sylw.

 

Clywodd y grŵp gan Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, am y meysydd sy’n achosi pryder arwyddocaol i’r Coleg Nyrsio Brenhinol ledled y Deyrnas Unedig. Eglurodd fod Iechyd Meddwl yn un o’r pryderon, a bod Dr Peter Carter, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Coleg Nyrsio Brenhinol, wedi cael ei benodi i Gomisiwn ar Iechyd Meddwl, a sefydlwyd yn ddiweddar. Cytunodd y grŵp y bydd yn cynnal cyfarfod yn y dyfodol i  edrych ar Wasanaethau Iechyd Meddwl a’r sefyllfa yng Nghymru, ac i wahodd Dr Peter Carter i’r cyfarfod hwnnw.

 

Dywedodd Tina Donnelly wrth y grŵp hefyd fod cynllunio’r gweithlu yn y gymuned yn fater pryder arall i’r Coleg Brenhinol. Dywedodd Elin Jones AC ei bod hi’n awyddus i gysylltu â Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion i drafod Staffio Diogel a chytunodd y Grŵp Trawsbleidiol i gynnal cyfarfod ynghylch y tîm cymunedol cyfan yn y dyfodol.

 

Cytunodd y grŵp y bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn trafod y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). Cytunodd y Grŵp i wahodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â Chlerc y Pwyllgor ac Arolygwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, i’r cyfarfod hwnnw er mwyn clywed rhagor am y Bil.

 

Cytunodd y Grŵp ar y flaenraglen waith ganlynol:

 

Y cyfarfod nesaf: Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Cyfarfod yr haf: Gwasanaethau iechyd meddwl

Cyfarfod yr hydref / cyfarfod cyffredinol blynyddol: Cynllunio’r gweithlu yn y gymuned.

 

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ym mis Mawrth/mis Ebrill, o bosibl ar 17/18 Mawrth.